Mae’r Prif Weinidog, David Cameron wedi rhybuddio fod Prydain yn wynebu blynyddoedd o “boen” wrth i’r Llywodraeth dorri yn ôl.
Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Sunday Times, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n ceisio “mynd a’r cyhoedd gyda ni” wrth ddechrau ar y toriadau.
“ Dylai arweinydd gwlad wneud beth sy’n gywir, ac esbonio i bobol pam fod angen y boen,” meddai.
“Mae yna lwyth o ddyled sydd angen ei dorri. Fydd croesi bysedd a gobeithio y bydd o’n diflannu ddim yn gweithio.”
Fe fydd Llywodraeth y Glymblaid yn San Steffan yn datgelu cyllideb argyfwng ar 22 Mehefin, meddai.
“Mae’r wlad yn y coch. Mae’r llog ar y gorddrafft yn llyncu pethau y dylen ni fel gwlad fod yn gwario ein harian arno. Rhaid i ni fynd a’r cyhoedd gyda ni ar y daith anodd yma.”
Mae disgwyl y bydd Syr Alan Budd, pennaeth yr Adran Cyfrifoldeb Cyllidol newydd, yn israddio rhagolwg Llafur o dyfiant 3% y flwyddyn nesaf.
Dywedodd David Cameron mai “biliau anferth y wladwriaeth les”, tâl uchel yn y sector gyhoeddus a’r “biwrocratiaeth sydd wedi adeiladu ers degawd” fyddair cyntaf i deimlo’r boen.
“Fe arall bydd rhaid cyflawni toriadau ym mhobman. Rhaid mynd i’r afael gyda’r problemau sy’n golygu ein bod ni’n byw y tu hwnt i’n gallu i dalu amdano.”
Yn ôl papur newydd y Sunday Times mae’r llywodraeth yn ystyried atal unrhyw gynnydd pellach mewn budd-daliadau a thorri credyd treth i blant wrth iddyn nhw fynd i’r afael gyda’r diffyg ariannol £156 biliwn.
Maen nhw hefyd eisiau codi’r dreth enillion cyfalaf, cam sy’n ddadleuol o fewn y Blaid Geidwadol.
Thatcheriaeth
Pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg na fyddai cynlluniau’r Llywodraeth ddim yn dod a Thatcheriaeth yn ei ôl.
“Mae’n bwysig bod pobol yn deall nad ydi cynildeb ariannol yn golygu mynd yn ôl i’r 80au. Rydym ni am wneud hyn yn wahanol,” meddai mewn cyfweliad gyda’r Observer.