Mae dyn wedi boddi mewn afon ger Machynlleth ar ôl ceisio achub plentyn.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig cyn chwech o’r gloch neithiwr, ym Mhantperthog, yn agos at Blas Llwyngwern a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Fydd enw’r dyn ddim yn cael ei gyhoeddi nes i’w deulu gael gwybod ond mae’r heddlu’n dweud nad oes dim drwgdybus ynglŷn â’r farwolaeth.

Mae’n ymddangos bod y plentyn wedi syrthio i’r afon a bod y dyn wedi mynd i mewn i’r dŵr i geisio’i achub.

Fe fu’r heddlu a’r gwasanaethau achub eraill yn ceisio helpu’r dyn ond fe gafwyd ei gorff yn y dŵr ychydig yn ddiweddarach.

Fe gafodd y plentyn ei achub.

Llun: Map o’r ardal (h Google)