Fe gollodd Cymru gyfle mawr heddiw, meddai’r hyfforddwr, Warren Gatland.

Ar ôl mynd ar y blaen o 16-3 ar ôl ugain munud, roedd hi fel petai’r tîm wedi dal rhyw glefyd cyn ymladd yn ôl, meddai. Doedd dim posib esbonio’r peth.

“R’yn ni’n rhwystredig,” meddai Warren Gatland. “Gwpwl o dymhorau’n ôl fe fydden ni wedi dweud cystal perfformiad oedd hwn ond r’yn ni wedi symud o fan’na.”

Fe gafodd y gêm ei cholli o boptu hanner amser pan aeth Cymru 19-31 ar ei hôl hi cyn gorffen ar 31-34.

Ond roedd Warren Gatland yn gweld addewid hefyd – “r’yn ni bron â chyrraedd,” meddai. “Os byddwn ni’n fwy clinigol, r’yn ni’n gwybod y gallwn ni guro unrhyw un.”

Roedd yna un garreg filltir hefyd, wrth i’r asgellwr 18 oed, Tom Prydie, gael cais – y sgoriwr ieuenga’ erioed i Gymru.