Mae’r ddau Gymro gorau fwy neu lai allan ohoni ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru yn y Celtic Manor.
Gyda’r arweinydd annisgwyl, Marcel Siem, un ergyd ar ddeg yn well na’r safon, fe fyddai angen gwyrth ar Rhys Davies a Bradley Dredge i’w ddal.
Mae Davies ar dair ergyd yn well wrth fynd i’r diwrnod ola’ – ar ôl rownd un yn well heddiw – ac mae hynny un ar y blaen i Dredge.
Os bydd Siem yn ennill, fe fydd yn parhau gyda record y Bencampwriaeth Gymreig o gel enillwyr annisgwyl.
Mae’r Almaenwr 29 oed yn ôl yn y 294fed lle ar restr y byd a dyw e erioed wedi cystadlu yn un o’r prif bencampwriaethau.
Ond fe fydd yn wynebu her gan y Daniad Thoms Bjorn sydd wyth yn well a gan dri a gafodd rowndiau ardderchog heddiw.
Fe orffennodd y tri ar saith yn well – y Sais, Simon Dyson yn cael rownd o 65, y Gwyddel Graeme McDowell yn cael 64 a’r Albanwr, Stephen Gallagher, yn torri record y cwrs gyda 63.
Fe lamodd ef o’r 35ed safle i fod yn bedwerydd.
Llun: Marcel Siem (Gwifren PA)