Mae sawl ‘ap’ yn chwedlau Cymru ond erbyn hyn mae modd eu lawr lwytho i ‘app’ ar eich ffôn symudol.

Mae cyfieithiad i’r Saesneg o rai o’r straeon Cymraeg hynafol wedi cael ei ryddhau fel ‘app’ i’w lawr lwytho ar yr iPhone.

Er bod nifer o gyfieithiadau cyfoes ar gael, ‘The Mabinogion’ gan y Foneddiges Charlotte Guest, y cyfieithiad Saesneg cyntaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sydd wedi ei ddefnyddio.

“Mae’n wych fod yr oes ddigidol yn gwneud llenyddiaeth yr oesoedd canol yn fwy hygyrch i bobol,” meddai’r Athro Sioned Davies o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

“Mae unrhyw beth sy’n gwneud y Mabinogi yn boblogaidd yn beth da.”

Ond dywedodd y byddai’n beth da hefyd petai’r straeon yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg hefyd.

Mae cyfieithiad y Foneddiges Charlotte Guest yn “un da”, ond mae cyfieithiadau eraill sydd â “dehongliadau newydd a mwy cywir o’r gwreiddiol”.

Mi fydd yr Athro Sioned Davies yn siarad am y Mabinogi yng Ngŵyl Llyfrau’r Gelli ddydd Sul.