Mae’r Urdd wedi dweud eu bod nhw wedi comisiynu “ymchwil proffesiynol” er mwyn penderfynu a ydi gwerthu alcohol ar y maes wedi bod yn syniad da.

Roedd Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill wedi beirniadu’r penderfyniad i werthu alcohol ar faes yr ŵyl i blant.

Dywedodd yr Urdd wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi “comisiynu ymchwil proffesiynol ac wedi defnyddio technegau ymchwilio anffurfiol yn ystod yr wythnos”.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar “wahanol agweddau o’r Maes – gan gynnwys sefydlu’r Bwyty” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

“Arbrawf yw’r Bwyty ac fel pob elfen newydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd, fe gynhelir asesiad o’r gweithgaredd wedi’r ŵyl”. .

“Defnyddir y wybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn ogystal â dadansoddiad o nifer cwsmeriaid Y Bwyty gydol yr wythnos i asesu llwyddiant y fenter”.

Fe aeth ymlaen i ddweud fod y “Bwyty wedi bod yn brysur gydol yr wythnos gyda phobl yn mwynhau defnyddio’r adnodd”.

“Serch hynny, byddwn yn astudio’r holl ymchwil yn fanwl cyn penderfynu os bydd yn parhau yn Eisteddfod yr Urdd, Abertawe’r flwyddyn nesaf.”

Ddoe roedd Cyfarwyddwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, Wynfford Ellis Owen wedi dweud ei fod o’n pryderu ynglŷn â sut fydd yr Urdd yn asesu effaith gwerthu alcohol.

“Os nad ydi rhywun wedi meddwi neu ddechrau cwffio – ydyn nhw’n mynd i barhau? Beth am y neges i bobol ifanc?” meddai Wynfford Ellis Owen wrth Golwg 360 ddoe.