Mae cynnal Eisteddfod yr Urdd ar eu tir eleni wedi bod yn llwyddiant mawr, meddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae 4,000 o ymwelwyr wedi ymweld â Thŷ Llanerchaeron dros yr wythnos ddiwethaf, medden nhw.

Mae hynny’n cyfateb i 20% o’r cyfanswm drwy’r flwyddyn gyfan fel arfer, ac wedi rhoi cyfle iddyn nhw dynnu sylw at eu hunain.

Mae nifer yr ymwelwyr i’r Eisteddfod dros y chwe diwrnod hefyd wedi mwy na dwblu nifer yr ymwelwyr blynyddol arferol i stad Llanerchaeron.

“Roedden ni’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn wythnos brysur a chyffrous, ond doedden ni neb ragweld pa mor aruthrol fyddai’r llwyddiant,” meddai Llŷr Huws Gruffydd o’r ymddiriedolaeth wrth Golwg360.

“Rydan ni’n gobeithio adeiladu ar y llwyddiant,” meddai cyn dweud fod yr eisteddfod wedi bod yn “gyfle i ddangos pa mor eang yw darpariaeth yr ymddiriedolaeth” o dai a chestyll i hectarau cefn gwlad.

Hadau, llysiau a rhwyfo

Mae 250,000 o hadau llysiau wedi’u dosbarthu i ymwelwyr yr Eisteddfod (gan cynnwys hadau moron, teim a salad) fel rhan o ymgyrch Bwyd Bendigedig yr ymddiriedolaeth.

Y nod ydi hyrwyddo ymgyrch cynnyrch lleol a thymhorol.

“Mae wedi bod yn grêt gweld plant yn baeddu dwylo,” meddai Llŷr Huws Gruffydd.

Mae dros 1,000 o blant hefyd wedi defnyddio’r peiriant rhwyfo ar stondin yr ymddiriedolaeth er mwyn cynhyrchu 2.5kw o ynni.

Mae hynny’n “ddigon am gawod boeth am 20 munud,” meddai Llŷr Huws Gruffydd.

“Erbyn 2015 fe fydd yr Ymddiriedolaeth yn garbon niwtral ac fe fyddwn ni’n gweithredu rhaglen fawr o leihau defnydd ynni a chynhyrchu mwy o egni adnewyddadwy,” meddai.