Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Yr Eidal yw’r Pencampwyr Byd ar ôl ennill Cwpan y Byd 2006, un o bedwar y maen nhw wedi ei ennill ers 1934. A fydden nhw’n gallu unioni’r sgôr gyda Brasil a bachu’r pumed?
Y Wlad
Poblogaeth: 60 miliwn
Prif iaith: Eidaleg
Prifddinas: Rhufain
Arweinydd: y Prif Weinidog Silvio Berlusconi
Llysenw: Azzuri (y gleision)
Yr Hyfforddwr
Marcello Lippi:
Dychwelodd y cyn-chwaraewr i Sampdoria i’r swydd o hyfforddwr yr Eidal yn 2008, wedi iddo ymddiswyddo ar ôl arwain ei wlad i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd 2006. Cafodd brofiad eang yn rheoli timau o Serie A yn yr Eidal ac, yn erbyn y traddodiad Eidalaidd, mae’n ystyried bod creu undod yn y tîm, gyda phawb yn chwarae dros ei gilydd, cyn bwysiced â thactegau.
Y Daith
Daeth yr Eidal ar frig Grãp 8, heb golli’r un gêm. Serch hynny, roedd angen gôl gan Gilardino yn y funud olaf yn y gêm yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon yn Nulyn i gipio pwynt, a chafwyd cryn gymorth gan Kaladze o Georgia a sgoriodd ddwy gôl i’w rwyd ei hun ym muddugoliaeth yr Eidal yn Tbilisi.
Y Record
Mae gan yr Eidal record ddisglair yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd dros y blynyddoedd. Enillwyd y gystadleuaeth yn 1934 ac 1938 dan ofal yr hyfforddwr Vittorio Pozzo ond rhaid oedd aros tan 1982 i gipio’r Gwpan unwaith yn rhagor, gan guro Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol. Yna, ar ôl colli yn y rownd derfynol ar giciau o’r smotyn yn 1994, enillwyd y gystadleuaeth drwy’r un dull yn 2006.
Sêr o’r Gorffennol
Guiseppe Meazza:
Yn ogystal â bod yn gymeriad lliwgar oddi ar y cae, roedd Meazza yn flaenwr hynod ddawnus i Internazionale a’r Eidal yn ystod yr 1930au. Roedd yn allweddol ym muddugoliaethau’r Eidal yng Nghwpan y Byd 1934 a 1938 a sgoriodd 33 gôl mewn 53 gêm ryngwladol.
Roberto Baggio:
Baggio oedd un o’r blaenwyr mwyaf dewinol ei ddydd ond caiff ei gofio am fethu gyda’i gic o’r smotyn ar ddiwedd rownd derfynol Cwpan y Byd 1994, gan ganiatáu i Brasil gipio’r Gwpan. Serch hynny cafodd ddigon o lwyddiant yn lliwiau sawl clwb o’r Eidal, gan sgorio 115 gôl mewn 141 gêm i Juventus mewn gwlad sy’n enwog am amddiffynfeydd di-ildio. Enillodd 56 gap dros ei wlad a sgorio 27 gôl.
Gwyliwch Rhain
Andrea Pirlo: Bydd perfformiadau cyson gan chwaraewr creadigol AC Milan yn hanfodol i lwyddiant yr Eidal yn 2010. Gelwir ef yn ‘l’architetto’ (y pensaer) gan ei gyd-chwaraewyr oherwydd ei basio hir cywrain sydd yn aml yn arwain at gôl.
Fabio Cannavaro: Mae’r Eidal yn enwog am ei amddiffynwyr cadarn ond prin bod yr un ohonynt gystal â chapten presennol y wlad. Ef gododd Cwpan y Byd yn 2006 a phan enillodd 127 cap, fe dorrodd record Paolo Maldini am y nifer mwyaf o gapiau dros ei wlad. Yn 36 mlwydd oed bellach, bydd yn gobeithio arwain yr Eidal i fuddugoliaeth am y bumed tro yng Nghwpan y Byd 2010.
Y Seren
Mae sawl arbenigwr yn ystyried mai Buffon yw gôl-geidwad gorau’r byd. Enillodd ei ganfed cap yn ddiweddar ac yn ddiamau ef oedd un o’r prif resymau dros lwyddiant yr Eidal yng Nghwpan y Byd 2006. Ildiodd dim ond dwy gôl yn yr holl gystadleuaeth, un yn gôl drwy ei rwyd ei hun gan Zaccardo, ac un o gic o’r smotyn gan Zidane yn y rownd derfynol.