Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud nad oes gan y clwb unrhyw fwriad i gynnig cytundeb newydd i Darren Pratley er gwaethaf y diddordeb gan glybiau eraill.
Mae Pratley, sydd â blwyddyn ar ôl ar ei gytundeb presennol, wedi cael ei gysylltu gyda nifer o glybiau, gan gynnwys Wigan, Nottingham Forest, Newcastle a Celtic.
Mae yna amheuon am ddyfodol nifer o chwaraewyr yr Elyrch gan gynnwys Leon Britton ac Andrea Orlandi. Mae eu cytundebau yn dod i ben mis nesaf.
Ond mae’r cadeirydd yn mynnu mai arwyddo chwaraewyr newydd yw blaenoriaeth y clwb dros y misoedd nesaf, ac fe fydd cytundeb Pratley yn cael ei drafod ar ôl i’r tymor newydd gychwyn.
“Does dim cynlluniau i gynnig cytundeb newydd i Darren ar hyn o bryd. Fe fyddwn ni’n delio gyda hyn yn yr un modd ag arfer yn ystod y tymor nesaf,” meddai Jenkins wrth bapur newydd y Western Mail.
“Mae ganddo 14 mis ar ôl ar ei gytundeb ond mae ‘na lawer o bethau i ystyried cyn siarad am gytundeb newydd. Does dim brys.
“Y flaenoriaeth yw cryfhau’r garfan dros yr haf. Pan fyddwn ni wedi gwneud hynny, fe allwn ni edrych ar y chwaraewyr sydd angen cytundebau newydd,” ychwanegodd Jenkins.
Roedd Nottingham Forest wedi ceisio arwyddo Darren Pratley ‘nôl ym mis Ionawr, ond dyw’r clwb heb wneud unrhyw gynigion newydd amdano ers i’r tymor ddod i ben.