Mae Comisiwn Ewrop wedi bygwth mynd â Llywodraeth San Steffan i’r llys am nad ydi’r aer yn Llundain yn ddigon glân.

Mae tua 3,000 o bobol yn marw yn Llundain bob blwyddyn am resymau sy’n cael eu cysylltu gyda glendid yr aer yno.

Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd mai dyma’r rhybudd olaf i Brydain, am nad ydyn nhw wedi llwyddo i dorri i lawr ar faint o ronynnau o lygredd sydd yn yr awyr yno.

Mae Maer Llundain, Boris Johnson wedi lansio strategaeth newydd fydd yn gwahardd defnyddio tacsi dros 10 oed erbyn 2015.

Y gred yw bod y rhan fwyaf o’r gronynnau yn y brifddinas yn dod o ddisbyddwyr a theiars hen geir.

Ond mae’r Maer yn wynebu beirniadaeth am ei gynlluniau i gael gwared â pharth tâl atal tagfeydd gorllewinol y ddinas .

Mae o hefyd yn ystyried rhoi’r gorau i gynllun am barth newydd ‘allyriadau isel’ fyddai’n codi tâl o £100 bob diwrnod ar y cerbydau sy’n llygru’r aer fwyaf.