Mae ‘na adroddiadau yn Awstralia yn sôn y gallai Scott Johnson ddychwelyd i’w wlad enedigol i gymryd yr awenau gyda thîm Super 14 Western Force.
Yn ôl papur y Brisbane Times mae ‘na bosibiliad y bydd Johnson yn ymuno gyda’r tîm o Perth ynghyd â chyn hyfforddwr amddiffynnol y Scarlets, John Muggelton.
Mae Johnson a Muggelton wedi cydweithio yn y gorffennol fel hyfforddwyr cynorthwyol Awstralia yn ystod Cwpan y Byd 2007.
Maen nhw’n cael eu hystyried yn arbenigwyr rygbi yn Awstralia fyddai’n gallu helpu Western Force i ddatblygu a chryfhau.
Mae’r Brisbane Times yn disgrifio Johnson fel “hyfforddwr arloesol”, ac fe fyddai cyfuno ei sgiliau ef gydag arbenigedd amddiffynnol Muggelton yn gyfuniad effeithiol iawn i Western Force.
Fe ddaw’r newyddion dyddiau’n unig ar ôl i Scott Johnson helpu’r Gweilch i gipio’r Cynghrair Magners yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Leinster yn Nulyn.
Ond mae papur The West Australian yn nodi bod hyfforddwr presennol Western Force, John Mitchell am ddychwelyd i Perth yn 2011 ar ôl cyfnodau o ymgynghori yn Ne Affrica a Japan.