Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi amlinelliad manwl o bob un o gostau’r Trysorlys am y tro cyntaf erioed.

Mae’r System Wybodaeth Gyfunol Ar-lein (Coins) yn un o nifer o gronfeydd data y mae’r Prif Weinidog yn gobeithio y bydd Whitehall yn eu rhyddhau.

Mae’n cynnwys miliynau o ystadegau ynglŷn â gwariant cyhoeddus, ac fe fydd pleidiau gwleidyddion a newyddiadurwyr yn tyrchu drwyddynt dros y dyddiau nesaf.

Dywedodd swyddogion Whitehall y byddai’r data craidd yn gwbl ddiystyr i’r rhan fwyaf o bleidleiswyr.

Maen nhw’n gobeithio y bydd arbenigwyr yn gallu ei droi o dros amser mewn i rywbeth haws ei ddeall.

Mae datgelu’r wybodaeth hefyd yn ei gwneud hi’n haws i’r gwrthbleidiau ffurfio polisïau economaidd.

Tryloywder

Roedd y Canghellor George Osborne wedi cwyno llynedd bod Gordon Brown wedi mynd allan o’i ffordd i rwystro’r ffigyrau rhag cael eu rhyddhau i’r cyhoedd.

Gwadodd Llafur hynny gan ddweud bod y penderfyniad yn un gan weithwyr sifil, ond fe wnaeth George Osborne addo rhyddhau’r wybodaeth pe bai’n cymryd yr awenau yn y Trysorlys.

Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd enwau a tal 172 o weithwyr yn y sector cyhoeddus sy’n cael eu talu mwy nag £150,000.

Fe fydd unrhyw gytundeb gan y llywodraeth dros £10,000 yn cael ei gyhoeddi o fis Medi ymlaen, yn ogystal ag unrhyw gytundeb dros £500 gan gynghorau lleol.

Dywedodd Y Prif Weinidog, David Cameron ei fod o eisiau diosg y “llen cyfrinachedd” sy’n gorchuddio gwybodaeth swyddogol er mwyn hybu ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth.