Mae capten y Crusaders yn credu bod gan y tîm dipyn o le i wella wrth iddynt fynd mewn i ail hanner tymor y Super League.
Bydd y clwb Cymreig yn teithio i Lundain y penwythnos yma i wynebu’r Harlequins yn y Twickenham Stoop, ac yn ceisio ail-danio’r tymor ar ôl colli tair gêm yn olynol.
Mae’r Crusaders wedi cael tymor digon addawol gyda phum buddugoliaeth i’w henw, sy’n cynnwys curo Hull FC a’r Bradford Bulls.
Ond yn ddiweddar maen nhw wedi cychwyn gemau’n araf ac mae eu hamddiffyn gwan wedi costio sawl buddugoliaeth iddynt.
Mae Ryan O’Hara wedi dweud bod rhaid i’r Crusaders wneud yn well yn ail hanner y tymor.
“Bydden i wedi hoffi cael ambell fuddugoliaeth ychwanegol wrth i ni gychwyn ar ail hanner o’r tymor,” meddai’r capten.
“Bydden i hefyd wedi hoffi pe tae’r tîm wedi bod ychydig yn fwy cyson yn ein perfformiadau. R’yn ni’n methu cynnal ein perfformiadau ac rwy’n gobeithio y gallwn ni weithio ar hynny.
“Os allwn ni ddechrau gemau’n well, fyddwn ni’n gwybod bod gennym ni’r ffitrwydd a’r awch i fynd ‘mlaen i ennill,” ychwanegodd O’Hara.