Mae cyn hyfforddwr Gavin Henson wedi dweud bod croeso i’r Cymro ddychwelyd i rygbi yng nghystadleuaeth Super 14 gyda’r Sharks yn Ne Affrica.

Roedd John Plumtree yn hyfforddwr i Abertawe pan gychwynnodd Henson ei yrfa, ond erbyn hyn mae’n hyfforddi’r Sharks ac mae’n awyddus i weld Henson yn chwarae rygbi yn Natal.

Mae’r Gweilch eisoes wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i Henson ddychwelyd i’r rhanbarth tymor nesaf wrth iddo geisio ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Ond mae Plumtree wedi dweud y gallai symud i Dde Affrica pe bae’n awyddus i adael Cymru.

“Dw i ddim am gythruddo’r Gweilch gan fy mod i’n nabod rhai o’r bobl yno. Ond pe bai Gavin eisiau newid, mae croeso iddo yma,” meddai Plumtree wrth bapur y Western Mail.

“Byddai’r Super 14 yn gweddu at ddawn chwaraewr fel Gav. Mae o’n rhy dda i beidio chwarae rygbi.”

Church

Dyw’r Gweilch heb awgrymu eu bod nhw am adael i Henson adael y rhanbarth, ond mae John Plumtree yn ymwybodol o sefyllfa bersonol Henson ar ôl i’w berthynas gyda Charlotte Church ddod i ben.

“D’ych chi byth eisiau clywed bod rhywun yn cael problemau personol. Rydw i’n credu bod Gav yn berson swil sydd eisiau dianc o’r holl sylw,” meddai hyfforddwr y Sharks.

“Ond mae rygbi ei angen o’n ôl yn chwarae – boed hynny gyda’r Gweilch neu rywun arall.

“Mae angen iddo ddychwelyd oherwydd mae gyrfa mewn chwaraeon yn un fer a dydych chi byth yn gallu cael eich amser ‘nôl,” ychwanegodd Plumtree.

Mae Gavin Henson wedi dweud yn y gorffennol ei fod o’n mwynhau’r Super 14 ac y byddai’n hoffi chwarae yn y gystadleuaeth.