Mae mewnwr y Gweilch, Mike Phillips yn credu bod angen i Gymru ennill y frwydr gorfforol yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm yfory.

Mae Phillips yn ymwybodol o’r hyn sydd angen ei wneud yn erbyn y Springboks ar ôl chwarae rhan allweddol yn nhaith y Llewod yn eu herbyn nhw’r haf diwethaf.

“Mae’n rhaid i chi herio De Affrica yn gorfforol,” meddai’r Cymro.

“Maen nhw’n hoffi cymryd rheolaeth o ardal y dacl, maen nhw i gyd yn fois hyderus.

“Ond roedd rhaid iddyn nhw weithio’n galed ar daith y Llewod haf diwethaf. Yn y gemau prawf roedden nhw i gyd wedi blino ar ddiwedd y gêm, a dyna beth sydd angen i ni wneud penwythnos yma.”

Dyw Cymru heb guro De Affrica ers eu hunig fuddugoliaeth yn 1999, ond gyda nifer o’r chwaraewyr gorau yn absennol o dîm y Springboks, mae gan Gymru gyfle da unwaith eto.

“Mae De Affrica yn dîm anodd eu curo, ond rwy’n credu gallwn ni wynebu’r her yna,” nododd Phillips.

“Mae’r chwaraewyr yn teimlo’n dda ar hyn o bryd yn enwedig ar ôl llwyddiannau’r Gleision a’r Gweilch.”