Mae Joe Calzaghe wedi gwadu honiadau ei fod yn bwriadu dychwelyd i’r sgwâr i wynebu Bernard Hopkins unwaith eto.

Fe ddaeth gyrfa’r Cymro i ben pan benderfynodd ymddeol ym mis Chwefror 2009 ar ôl ennill pob un o’i 46 gornest.

Ond roedd Richard Schaefer, prif weithredwr yr hyrwyddwyr bocsio Golden Boy Promotions wedi dweud fis diwethaf bod Calzaghe yn awyddus i wynebu Hopkins am yr ail dro.

Mae Calzaghe wedi cyfaddef iddo gynnal trafodaethau ynglŷn â’r ornest ac roedd wedi ail gychwyn ar ymarfer yn ei gampfa yn Nhrecelyn.

Ond fe benderfynodd y bocsiwr 38 oed i beidio dychwelyd i’r sgwâr am nad oedd ganddo’r un awch erbyn hyn.

“Does dim gwirionedd yn y sïon fy mod i’n dod ‘nôl i focsio,” meddai Calzaghe.

“Mae nifer o focsiwr yn dychwelyd i’r sgwâr ond rydw i wedi ymddeol a does dim byd yn mynd i newid hynny.

“Fe fyddai nifer o gefnogwyr yn awyddus i mi ddychwelyd yn 38 oed, ond does dim awydd gen i.

“Fe siaradais gyda Richard cwpl o fisoedd ‘nôl pan oeddem ni yn Los Angeles, ac fe ddywedais wrtho ‘efallai’ y byddwn i’n ymladd eto.

“Ond ar ôl dychwelyd i’r gampfa fe sylweddolais i nad oeddwn i wir eisiau hyn,” ychwanegodd Calzaghe.