Mae’r BNP wedi canslo eu gŵyl flynyddol am ei bod hi’n costio gormod i’r heddlu ei gwarchod.
Dywedodd llefarydd ar ran y BNP y byddai’n well ganddyn nhw weld yr arian yn cael ei wario ar atal terfysgaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r BNP wedi cynnal yr ŵyl Red, White and Blue yn Codnor, yn Swydd Derby, ond roedd angen i’r heddlu ei hamddiffyn rhag protestwyr.
Ym mis Awst y llynedd cafodd 19 o bobol eu harestio wrth i 1,500 o brotestwyr wrth-ffasgaidd orymdeithio i gyfeiriad safle’r ŵyl.
Roedd angen dros 500 o swyddogion yr heddlu i’w cadw nhw draw. Y flwyddyn flaenorol fe gafodd 30 o brotestwyr eu harestio.
“Fydd yna ddim gŵyl BNP yr haf yma, ond fe fydd gweithwyr y BNP yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol lleol,” meddai llefarydd ar ran y blaid.
“Mae arweinwyr y BNP yn ymwybodol bod Heddlu Swydd Derby wedi eu tanariannu a bod hynny’n bygwth eu gwaith gwrth derfysgol. Yn 2008 fe gostiodd y gwaith gwrth derfysgol £3 miliwn.”