Mae lluniau newydd wedi datgelu effaith clwt olew BP ar fywyd gwyllt arfordir Gwlff Mecsico.

Mae’r darluniau brawychus yn dangos anifeiliaid wedi eu gorchuddio’n gyfan gwbl gydag olew, mewn ardal oedd yn arfer bod yn hafan i fywyd gwyllt yn y wlad.

Mae Tony Hayward, prif weithredwr BP, wedi addo y bydd y cwmni yn glanhau bob diferyn o olew ac yn adfer yr arfordir i’w stad cyn y drychineb.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama ei fod o’n “gandryll” ynglŷn â’r olew.

Mae BP yn dal i ymdrechu i osod twmffat ar y bibell olew sy’n gollwng yng Ngwlff Mecsico er mwyn sugno’r olew i’r wyneb.

Llwyddodd y cwmni i dorri’r bibell ddoe ond roedd y toriad yn flêr ac roedd hi’n fwy o her na’r disgwyl rhoi’r twmffat arno.

Roedd BP wedi gobeithio torri’r bibell gyda llif ond fe aeth hwnnw’n sownd ac roedd rhaid defnyddio siswrn anferth yn lle.

Twmffat

Roedd llun fideo neithiwr yn dangos bod y twmffat ychydig yn fwy na’r bibell, ac roedd yr olew oedd yn ffrydio ohono yn ei gwneud hi’n anodd gweld i ba raddau oedd o wedi ffitio’n daclus.

Dywedodd llefarydd ar ran BP, Toby Odone, nad oedd o’n siwr eto a oedd y twmffat wedi ffitio’n daclus ai peidio.

Fe fydd sêl rwber ar y tu mewn yn ceisio atal yr olew rhag dianc , er bod peirianyddion yn cydnabod y bydd rywfaint o’r olew yn diferu allan.

Dywedodd pennaeth Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau, Thad Allen, bod y twmffat yn gam cadarnhaol ymlaen ond nad oedd o’n ateb tymor hir.

“Hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddiannus dim ond rywbeth dros dro yw hyn ac mae’n rhaid i ni barhau gyda’r gwaith o amddiffyn arfordir gwerthfawr Gwlff Mecsico,” meddai.

Ar hyn o bryd mae tua 500,000 galwyn o olew yn gollwng o’r bibell bob dydd.