Mae cyfundrefn filwrol Burma eisiau datblygu arfau niwclear a thaflegrau sy’n gallu teithio’n bell, yn ôl dogfennau sydd wedi eu smyglo allan o’r wlad.

Mae’r wybodaeth gan ffynhonnell sydd wedi ffoi o fyddin Burma yn awgrymu bod Gogledd Korea yn helpu gyda’r gwaith.

Dywedodd corff Llais Democrataidd Burma, sydd wedi ei leoli yn Norwy, bod y person wnaeth ffoi wedi chwarae rhan yn y rhaglen niwclear.

Roedd o wedi smyglo dogfennau “helaeth” o’r wlad oedd yn cynnwys ffeiliau a ffotograffau yn manylu ar arbrofion gyda wraniwm a’r dechnoleg arbenigol fyddai ei angen i ddatblygu adweithydd niwclear.

Ond mae’r grŵp wedi dod i’r casgliad yn yr adroddiad fod Burma ymhell o allu datblygu arf niwclear.

Ddoe dywedodd y seneddwr Jim Webb ei fod o’n gohirio trip i Burma oherwydd yr honiadau bod y wlad yn cydweithio gyda Gogledd Korea er mwyn datblygu rhaglen niwclear.

Mae llywodraeth filwrol Burma wedi gwadu’r cyhuddiadau yn y gorffennol. Does gan y wlad ddim cymdogion gelyniaethus a’u prif her yw ffrwyno gwrthryfel yn eu gwlad eu hunain.

Mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi dweud eu bod nhw’n drwgdybio bod Gogledd Korea yn cydweithio gydag Iran, Syria a Burma wrth ddatblygu arfau niwclear.