Mae McDonalds wedi galw 12 miliwn par o sbectols oedden nhw’n ei ddefnyddio i hyrwyddo y ffilm Shrek newydd yn ôl oherwydd ey bod nhw’n cynnwys y metal gwenwynig cadmium.
Dywedodd y bwyty eu bod nhw eisiau i gwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau roi’r gorau i ddefnyddio’r sbecols 16 pwys, sy’n cael eu gwerthu am £2 yr un.
Mae ymchwil meddygol yn dangos fod cadmium yn gallu meddalu esgyrn ac achosi problemau difrifol i’r arennau.
Yn achos y sbectols Shrek, y pryder yw y byddai’r cadmium yn mynd o’r sbectol i law y plentyn ac i mewn i’w gorff pe bai’n rhoi’r llaw yn ei geg.
Roedd y sbectols yn cael eu gwerthu fel casgliad o bedwar yn cynnwys y cymeriadau amlycaf o Shrek Forever After.