Mae mwy nag 100 o bobol wedi marw ym mhrifddinas Bangladesh ar ôl i dân mawr ledu drwy sawl floc o fflatiau.

Dywedodd y gwasanaeth tân yno bod y tân wedi dechrau pan ffrwydrodd newidydd trydan dydd Iau, gan gynnau adeilad tri llawr yn ardal Najirabazar Dhaka.

Lledodd y tân i adeiladau eraill ac maen nhw eisoes wedi dod o hyd i 87 corff ond mae mwy yn dal ar goll.

Roedd nifer o’r meirw yn cynnwys gwesteion mewn parti priodas ar do un o’r adeiladau.

Dywedodd sianel deledu ATN Bangla fod o leiaf 108 o bobol wedi marw, a bod mwy nag 100 wedi eu hanafu. Mae yn adroddiadau bod mwy wedi marw ar eu ffordd i’r ysbyty.

Ychwanegodd y gwasanaeth tan eu bod nhw bellach wedi dod a’r tân dan reolaeth. Roedd y tan wedi lledu i o leiaf 20 adeilad gwahanol meddai ATN Bangla.

“Dydw i erioed wedi gweld y fath beth yn digwydd mewn 40 mlynedd,” meddai Shamanta Lal Sen, pennaeth adran llosgiadau Ysbyty Coleg Dhaka, wrth iddyn nhw frwydro i drin yr holl gleifion.