Mae Tŷ’r Cynrychiolwyr Japan wedi ethol Naoto Kan yn Brif Weinidog ar y wlad heddiw.
Mae’r cyn weinidog cyllid yn boblogaidd gyda chefnogwyr llawr gwlad y blaid ac mae ganddo’r dasg o ennill yr etholiad ym mis Gorffennaf.
Ymddiswyddodd ei olynydd Yukio Hatoyama, dydd Mercher wrth iddo golli cefnogaeth y cyhoedd. Naoto Kan yw chweched prif weinidog y wlad mewn pedair blynedd.
“Fy swydd i yw ail adeiladu’r wlad,” meddai Naoto Kan gan ddweud mai un brif flaenoriaeth fyddai rhoi hwb i dyfiant economaidd araf y wlad.
Mae o’n wynebu penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i gadw ail economi mwyaf y byd ar ei draed. Mae Japan yn dioddef o ddyled anferth, economi swrth a phoblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym.
Bydd yr etholiadau ym mis Gorffennaf yn penderfynu ar gyfansoddiad Tŷ’r Cynghorwyr Japan. Cafodd ei greu i efelychu Tŷ’r Arglwyddi Prydain ond ers yr Ail Ryfel Byd mae’r aelodau wedi eu hethol.
“Fe fydden ni’n gweithio gyda’n gilydd i wynebu sefyllfa wleidyddol anodd wrth i’r etholiad i Dy’r Cynghorwyr nesáu,” meddai Naoto Kan.
“Ein blaenoriaeth gyntaf yw adennill ffydd y bobol.”
Ychwanegodd bod perthynas Japan gyda’r Unol Daleithiau yn hanfodol ond bod y berthynas gyda chymdogion rhanbarthol y wlad yn bwysig hefyd.
“Cynghrair yr Unol Daleithiau a Japan yw sylfaen ein diplomyddiaeth, ond mae rhaid i ni hybu ffyniant ar draws Asia,” meddai.
(Llun: Shimin Heiwa)