Fe fyddai toriadau’n effeithio ar waith uniongyrchol y mudiad, meddai’r Brif Weithredwraig

Fe fyddai unrhyw dorri ar arian cyhoeddus i’r Urdd yn cael effaith uniongyrchol ar ei wasanaethau.

Ac fe allai hynny beryglu rhai o’r 250 o swyddi llawn a rhan amser o fewn y mudiad, meddai’r Brif Weithredwraig Efa Gruffudd Jones.

Fe addawodd y byddai’r Urdd yn dadlau’n gry’ tros gynnal y gefnogaeth – doedd dim gwastraff, meddai, ac roedd y mudiad yn gwneud gwaith tymor hir hanfodol i hyrwyddo’r Gymraeg a rhoi cyfleoedd i bobol ifanc.

“Fe fyddi unrhyw doriadau yn effeithio’n syth ar y gwasanaethu wyneb yn wyneb,” meddai. “Yn ystod y misoedd nesa’ bydd rhaid i ni gynllunio i weld beth fyddai effaith posib unrhyw doriadau.”

Pryder am lywodraeth leol

Un pryder mawr i’r Urdd yw bod llawer o arian yn dod trwy bartneriaethau gydag awdurdodau lleol ac fe allai gostyngiad yn eu harwain nhw effeithio ar y mudiad.

Fe fydd arian Ewropeaidd gwerth tua £2 filiwn hefyd yn dod i ben ar ôl tair blynedd ac fe fydd rhaid ceisio llenwi’r bwlch hwnnw.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’ mae arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru wedi rhybuddio am y peryg o doriadau cyllid i wasanaethau gwirfoddol.

Does neb eto wedi dweud y bydd rhaid torri’n ôl, meddai Efa Gruffudd Jones, ond roedd yna bryder cyffredinol a dim ond sicrwydd blwyddyn sydd i’r rhan fwya’ o grantiau.

Un cysur i’r Urdd, meddai, yw bod ganddi ei ffynonellau incwm ei hun hefyd – mae’r rheiny’n cynnwys y gwersylloedd yn Llangrannog, Glan-llyn a Bae Caerdydd.

Dadl yr Urdd

“Fe fyddwn ni’n dadlau i ddechrau ein bod ni’n rhoi gwerth am arian. Er enghraifft, heb holl waith gwirfoddolwyr fe fyddai costau’r Eisteddfod yn aruthrol fwy.

“R’yn ni hefyd yn gwneud gwaith ataliol, tymor hir, trwy roi cyfleoedd newydd i bobol ifanc sy’n aml o gefndiroedd di-fraint. Allwch chi ddim gweld yr effaith am flynyddoedd.

“Gyda’r gwaith o hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymhlith pobol ifanc, allwch chi ddim torri’n ôl ac wedyn ail gychwyn.”

Llun: Efa Gruffudd Jones