Mae Undeb Rygbi Cymru yn gobeithio torri’r record am y dorf fwyaf mewn gêm rygbi yn yr haf pan fydd tîm Warren Gatland yn herio De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm fory.

Roedd 27,000 o gefnogwyr yno i wylio Cymru yn curo’r Sbringboks am y tro cyntaf yn eu hanes yn 1999, pan oedd y Stadiwm heb ei gorffen.

Mae prif weithredwr yr undeb yn gobeithio y bydd mwy na dwbl hynny yn y dorf y tro yma.

Y dorf fwyaf ar gyfer gêm haf yn Stadiwm y Mileniwm oedd ym mis Awst 1999, pan oedd 62,500 yn gwylio Cymru’n maeddu Ffrainc 34-23 yn ystod y paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd.

‘Gêmau gwych’

“R’yn ni wedi cael llawer o gemau gwych yn ystod misoedd yr haf yng Nghaerdydd, yn draddodiadol fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd,” meddai Roger Lewis.

“Mae’r gêm yn erbyn De Affrica yn 1999 yn aros yn y cof, ond dim ond rhan o’r stadiwm oedden ni’n gallu ei lenwi bryd hynny. Fe fydd mwy na dwywaith cymaint â hynny o bobol yn y dorf dydd Sadwrn ac r’yn ni’n agosáu at ffigwr 60,000.

“Os gallwn ni wneud yn well na gêm Ffrainc yn 1999 fe fyddwn ni’n gwybod bod y cefnogwyr yn gwerthfawrogi’r hyn yr ’yn ni’n ceisio’i wneud trwy wahodd pencampwyr y byd i Gaerdydd yr haf yma.”