Bydd y gwaith o adeiladu un o’r ffermydd gwynt mwya’r y byd yn dechrau oddi ar arfordir gogledd Cymru’r flwyddyn nesaf.
Bydd fferm wynt Gwyn y Môr yn costio £2 biliwn i’w hadeiladu gyda tua 250 tyrbin gwynt yn cael eu codi 11 milltir o arfordir Bae Colwyn a Llandudno.
Mae disgwyl i’r prosiect gan RWE npower ddechrau’r flwyddyn nesaf cyn cael ei gwblhau yn 2014, ac fe fydd y tyrbinau yn creu digon o bŵer ar gyfer 400,000 o dai.
Ym mis Rhagfyr 2008 y cafodd y cwmni ganiatâd gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan i adeiladu’r fferm wynt.
Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi heddiw, gan gynnwys cadarnhad ynglŷn â pha fusnesau lleol sydd wedi ennill cytundebau gwerth hyd at £2.2 miliwn.
Dadlau
Mae cefnogwyr yn dweud y bydd y prosiect yn creu 1,000 o swyddi ond mae gwrthwynebwyr, gan gynnwys y grŵp protest lleol Save our Scenery, yn dweud y bydd y tyrbinau hyll yn weladwy o’r lan.
Heddiw, fe ddywedodd AS newydd Aberconwy bod rhaid derbyn bellach fod y penderfyniad i godi’r fferm wedi ei wneud.
Y gwaith bellach, meddai Guto Bebb wrth Radio Wales, oedd sicrhau bod yr ardal, a gogledd Cymru i gyd, yn elwa o’r cynllun.
Roedd Cyngor Sir Conwy yn erbyn y cynllun ond fe benderfynon nhw beidio â herio’r penderfyniad oherwydd y gost gyfreithiol. Llywodraeth Prydain sy’n penderfynu ar gynlluniau o’r maint yma.