Fe ddylai digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru fod yn gwneud lles tymor hir, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad.
Maen nhw’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n mynnu bod gan ddigwyddiadau gynlluniau i adael etifeddiaeth fwy parhaol ar eu hôl.
Ar yr un pryd, fe ddylai’r Llywodraeth gynllunio calendr 15 mlynedd o ddigwyddiadau o’r fath, torri’r gofynion biwrocrataidd ar y trefnwyr a gwneud mwy i roi cyngor a chefnogaeth iddyn nhw.
Er gwaetha’r toriadau mewn gwario cyhoeddus, mae’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn argymell cynnal y cyllid ar gyfer Uned Digwyddiadau Mawr y Llywodraeth.
Maen nhw hefyd yn dadlau y dylai’r Llywodraeth fod yn fodlon cefnogi digwyddiadau llai, sy’n bwysig o fewn campau penodol – ar yr amod eu bod yn cwrdd â rhai o ofynion polisi’r Llywodraeth.
Trafnidiaeth gyhoeddus yw’r maes allweddol arall – yn ôl y Pwyllgor, fe ddylai’r Llywodraeth gynnal arolwg i wneud yn siŵr bod modd cyrraedd safleoedd posib heb ddefnyddio ceir.
Digwyddiadau
Fe fydd un o’r digwyddiadau chwaraeon mwya’n digwydd yr hydref yma, gyda Chwpan Golff Ryder yng Nghasnewydd.
Fe fu dadlau yn ystod y blynyddoedd diwetha’ tros rôl y Llywodraeth yn cefnogi Rali Cymru, sy’n rhan o bencampwriaeth y byd.