Bil treth heb ei dalu yw’r rheswm diweddara’ sy’n cael ei roi tros y lladdfa yn Cumbria.
Mae gyrrwr tacsi a oedd yn adnabod y lladdwr wedi dweud wrth asiantaeth newyddion PA fod Derrick Bird yn ofni mynd i’r carchar.
Yn ôl Mark Cooper, a oedd yn adnabod Derrick Bird ers 15 mlynedd, roedd y dyn 52 oed wedi dweud wrtho bod yr awdurdodau treth ar ei ôl.
Gwadu fod dadl deuluol
Dadl deuluol tros arian oedd un o’r rhesymau eraill sydd wedi ei gynnig i egluro pam fod Derrick Bird wedi lladd ei efail, David, a chyfreithiwr y teulu.
Ond mae plant David Bird wedi gwadu hynny’n llwyr a dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau unrhyw un o’r sïon.
Maen nhw’n ceisio deall pwy o’r 12 a laddwyd oedd wedi eu dewis ymlaen llaw a phwy oedd wedi’i saethu ar hap.
Yn ôl doctoriaid yn ysbyty Whitehaven, lle mae rhai o’r bobol sydd wedi’u clwyfo yn cael eu trin, roedd llawer ohonyn nhw wedi cael eu saethu yn eu hwynebau.
Y Prif Weinidog ar ei ffordd
Yn ystod y dydd heddiw, fe fydd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref yn ymweld â’r ardal i siarad gyda’r heddlu a rhai o’r bobol a ddioddefodd yn ystod y gyfres o ymosodiadau ddydd Mercher.
Mae David Cameron yn wynebu galwadau am ddeddfau llymach i reoli gynnau ond mae wedi galw am bwyll nes y bydd yr holl ffeithiau’n glir.
Llun: Mark Cooper, y gyrrwr tacsi (Gwifren PA)