Mae angen i’r BBC symud £5 miliwn o’i gwario o Lundain i Gymru ar unwaith, yn ôl Sefydliad Materion Cymreig.
Mae’n dadlau fod eisiau i’r Saesneg gael mwy o chwarae teg ochr yn ochr â theledu Cymraeg.
Mae darlledu Saesneg yng Nghymru mewn argyfwng ers dirywiad ITV, meddai adroddiad newydd ganddo.
Mae’n dweud nad oes angen codi pris y drwydded deledu, dim ond symud arian sydd yno eisoes. Ac mae’n dweud fod methiant y BBC i sôn am Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn arolwg strategol yn “anhygoel”.
Dadl y Sefydliad yw y dylai’r Gorfforaeth yn y pen draw gynyddu ei gwario ar BBC Wales o £23 miliwn y flwyddyn i £40 miliwn – er mwyn datblygu gwasanaeth o “faint, safon ac amrywiaeth i adlewyrchu cymhlethdod a bywiogrwydd cymdeithas a diwylliant Cymru”.
Y ffeithiau – yn ôl yr adroddiad
Yn ôl yr adroddiad, mae cyfraniad Cymreig ITV wedi lleihau i ddim ond gwasanaeth newyddion a 90 munud arall bob wythnos.
Mae’n dweud fod rhglenni teledu Saesneg BBC Wales i Gymru wedi lleihau o 18% – neu dair awr yr wythnos – ers 2003.
Gan mai neywddion, materion cyfoes a chwaraeon yw 85% o deledu Saesneg Cymru, mae yn “le poenus o annigonol ar gyfer drama, cerddoriaeth, y celfyddydu a rhaglenni adloniant ysgafn a ffeithiol”.