Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cadarnhau heddiw eu bod yn bwriadu gosod treth o 7c ar fagiau siopa un-tro.

Eu gobaith yw y bydd y doll yn ei lle erbyn y gwanwyn 2011 ac y bydd yn arwain at ostyngiad mawr yn y defnydd o fagiau o’r fath.

Fe fydd y Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson yn mynd i Ŵyl y Gelli i lansio ail gyfnod o ymgynghori ynglŷn â’r bwriad.

Dyma’r tro cynta’ iddi gyhoeddi faint yn union fyddai’r dreth ar fagiau siopa plastig neu bapur sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio., Yr unig eithriadau fyddai rhai bagiau sy’n mynd am nwyddau rhydd neu foddion.

Mae Jane Davidson hefyd yn gobeithio cael cytundeb gwirfoddol gyda’r siopau fel bod yr arian o’r dreth yn mynd at achosion da.

Yn ôl y Llywodraeth, mae mwy na 440 miliwn o fagiau un-tro’n cael eu defnyddio bob blwyddyn yng Nghymru ac maen nhw’n cael eu taflu ar safleoedd tirlenwi.

“Mae bagiau un tro’n symbolau eiconig o’n cymdeithas ffwrdd â hi,” meddai Jane Davidson.