Mae 5% o’r ffermwyr yn yr ardal ddifa moch daear yn gwrthod gadael i swyddogion y Llywodraeth fynd ar eu tir i chwilio am dystiolaeth o foch daear.

Fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig eu bod yn trio perswadio’r gwrthwynebwyr er mwyn lles y cynllun cyfan, sy’n anelu at gael gwared ar TB mewn gwartheg.

Os na fydd trafod yn llwyddo, mae gan y Llywodraeth yr hawl i fynnu mynd ar y tir, ond maen nhw’n gobeithio osgoi hynny, meddai Elin Jones.

Beth sy’n digwydd

“Y bwriad yw mapio ble mae’r moch daear ac mae 95% o’r ffermwyr wedi caniatáu hynny. Cwmni ecolegol sy’n gwneud y gwaith.

“R’yn ni’n awr yn trafod gyda’r tirfeddianwyr sy’n gwrthod mynediad. R’yn ni eisiau osgoi cymryd camre cyfreithiol os gallwn ni.

Ond fe fyddai’n rhaid i’r ardal gyfan gael ei chynnwys os yw’r cynllun am lwyddo, meddai – mae’n golygu difa moch daear a chymryd camre eraill i warchod gwartheg rhag y diciâu.

“Mae treialon sydd eisoes wedi eu gwneud yn dangos bod rhaid i’r gwaith difa fod yn gwbl drwyadl i lwyddo.”

Y paratoi’n mynd yn ei flaen

Er gwaetha’r ffermwyr anfodlon, roedd y Gweinidog yn pwysleisio bod y gwaith paratoi yn mynd yn ei flaen. Y disgwyl yw y bydd yn dechrau o fewn wythnosau.

Roedd Elin Jones yn gwadu sïon lleol bod trapiau eisoes wedi cael eu gosod i ddal y moch daear. “D’yn ni ddim am roi sylwebaeth fel mae pethau’n digwydd,” meddai, “ond yn bendant dyw hynny ddim wedi digwydd eto.”

Mae ymgyrchwyr byd natur wedi protestio yn erbyn y bwriad i ddifa’r anifeiliaid gan ddweud ei fod yn ddiangen ac na fydd yn gweithio. Fe geisiodd yr Ymdddiriedolaeth Moch Daear yn aflwyddiannus i herio’r cynllun yn y llysoedd.

Ynghynt yr wythnos hon, fe ddywedodd Elin Jones ei fod yn ddewis rhwng difa neu fil o £100 miliwn – cost talu iawndal i ffermwyr yn ystod y deng mlynedd diwetha’.