Fe fu protestwyr yn ciwio yn Llundain er mwyn cael achos llys wedi ei ddwyn yn eu herbyn.

Roedd trigolion y ‘Pentre Democratiaeth’ sydd wedi cael ei godi ar y llain gwyrdd yn union o flaen y Senedd eisiau cael yr hawl i ymladd ymgais i’w symud.

Roedd Maer Llundain, Boris Johnson, wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn tri ohonyn nhw ond fe ofynnodd 15 arall am gael eu cynnwys hefyd.

Wrth dderbyn eu henwau, fe ddywedodd y barnwr ei fod yn adnabod un ohonyn nhw, dyn o’r enw Dirk Duputall a oedd yno mewn bandana piws.

Yn ôl y barnwr, roedd wedi’i weld yn gwerthu cylchgrawn y Big Issue ac, er nad oedd wedi prynu copi, roedd y ddau wedi dweud “Bore da”.

Fe fynnodd llefarydd ar ran Boris Johnson nad oedden nhw’n ceisio atal hawl pobol i brotestio.

Llun: Un o’r protestwyr (Gwifren PA)