Dyw’r Cymro ifanc Rhys Davies ddim wedi gwneud unrhyw ddrwg i’w obeithion o chware yn y Cwpan Ryder ar ôl ei rownd gynta’ ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru.
Ar gwrs y Celtic Manor ger Casnewydd, lle bydd y Cwpan Ryder, fe sgoriodd bedair ergyd yn well na’r safon gyda 67 – dim ond dwy ergyd ar ôl y Sais Chris Wood sydd ar y blaen.
Ond fe aeth Cymro arall, Bradley Dredge, un yn well gyda 66 ac roedd yr hen ben Phillip Price, sydd wedi chwarae i dîm Ryder Ewrop, ar un yn well na’r safon.
Ac mae capten tîm Ewrop eleni, Colin Montgomerie, wedi agor y drws i Price ei hun trwy awgrymu mewn cyfweliadau y byddai’n hoffi cael rhywun o Gymru yn ei griw hyfforddi.
Roedd yna ddau Gymro – Jamie Donaldson a Craig Smith – yn gyfartal â’r safon ar 71.