Mae Prif Weithredwr BP wedi cyfaddef nad odd y cwmni wedi paratoi’n ddigon da ar gyfer digwyddiad fel trychineb Gwlff Mecsico.
Doedd ganddyn nhw ddim o’r offer iawn i ddelio gyda ffynnon olew’n gollwng filoedd o droedfeddi o dan y môr, meddai Tony Hayward.
Roedd y tebygolrwydd y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd yn isel, meddai wrth bapur newydd y Financial Times.
Anawsterau
Wrth iddo siarad, roedd ymgais ddiweddara’r cwmni i atal y llif olew wedi taro anawsterau newydd.
Mae’r robot yr oedden nhw’n defnyddio i lifio’r bibell, sydd filltir o dan y môr, yn sownd, ac maen nhw bellach yn bwriadu defnyddio gweille anferth i’w thorri.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o fethiannau yn ystod y chwe wythnos diwethaf i atal y llif sydd ar fin cyrraedd traethau talaith Florida yn yr Unol Daleithiau.
Cynllun
Mae’r peirianwyr am dorri’r bibell a’i gorchuddio, er mwyn iddyn nhw allu dechrau pwmpio olew i long sydd ar yr wyneb.
Byddai hyn yn lleihau’r llif ond heb fod yn ei rwystro’n llwyr. Mae’n ymddangos mai’r unig fodd y bydd y llif yn cael ei atal yw drwy ddrilio dwy ffynnon arall ar gyfer yr olew, proses a allai gymryd hyd at fis Awst i’w gwblhau.
Llun: (AP Photo/BP PLC)