Mae Israel wedi gwrthod galwad gan y Cenhedloedd Unedig i ganiatáu ymchwiliad rhyngwladol i’r ymosodiad a laddodd naw o bobol ar longau cymorth oedd yn hwylio i Gaza.

Ond mae Ysgrifennydd Tramor Israel, Avigdor Lieberman, wedi awgrymu y gallai cynrychiolwyr rhyngwladol gael yr hawl i gadw llygad ar ymchwiliad mewnol.

“Os byddan nhw’n gofyn am gael cynnwys arsylwyr rhyngwladol”, meddai, “fe wnawn ni eu cynnwys.”

Dywedodd gweinidog Cabinet arall, Binyamin Ben-Eliezer, fod angen comisiwn ag aelodau rhyngwladol gan “fod gennym ni ddim i’w guddio”.

Pwysau

Mae Israel yn gwrthod galwad y Cenhedloedd Unedig er eu bod o dan bwysau mawr yn rhyngwladol, a’r beirniaid yn cynnwys rhai o’i ffrindiau traddodiadol.

Mae llefarydd o swyddfa’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu yn honni nad oes yr un achos diweddar o fyddin mewn gwlad ddemocrataidd yn gorfod wynebu ymchwiliad o’r fath.

Mae Israel yn honni mai ymateb a wnaeth y milwyr er mwyn eu hamddiffyn eu hunain. Maen nhw’n mynnu bod pobol ar y llong wedi ymosod arnyn nhw i ddechrau.

Mae swyddogion yn dweud bod y fyddin eisoes wedi dechrau ar ymchwiliad.

Blocâd

Digwyddodd y marwolaethau ar un o chwech o longau dyngarol a oedd ar y ffordd i Gaza.

Roedden nhw’n ceisio tynnu sylw rhyngwladol at ddioddefaint Palesteiniaid o ganlyniad i reolau mewnforio llym y mae Israel wedi ei gosod yno.

Mae’r blocâd yn fodd i atal arfau rhag cyrraedd Hamas, y grŵp Palesteinaidd sy’n arwain Gaza.

Llun: Llongau yn hwylio ger Dinas Gaza (AP/Adel Hana)