Mae prif sgoriwr Aberystwyth y tymor diwethaf, Luke Bowen wedi dychwelyd i Bort Talbot am yr ail dro yn ei yrfa.
Bydd yr ymosodwr yn chwarae yn Stadiwm GenQuip y tymor nesaf ar ôl sgorio 17 gôl mewn 34 gêm i Aberystwyth.
Roedd Luke Bowen , sy’n nai i gyn amddiffynwr Cymru, Mark Bowen, wedi treulio cyfnodau gyda Chastell-nedd, Goytre Utd a Hwlffordd.
Dyma’r pedwerydd chwaraewr y mae Port Talbot wedi ei arwyddo ers diwedd y tymor. Mae Nicky Palmer, David Brooks a Craig Jones eisoes wedi ymuno â nhw.