Fe fydd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cartref yn teithio i ardal Cumbria yfory i weld effaith y lladdfa pan gafodd 12 o bobol eu saethu’n farw.

Mae’r Llywodraeth wedi addo rhoi pob cymorth posib ond mae David Cameron wedi rhybuddio rhag ymateb yn rhy gyflym trwy newid y gyfraith ynglŷn â gynnau.

Fe ddaeth yn amlwg fod gan y lladdwr, Derrick Bird, record troseddol cyn iddo gael y trwyddedau i gadw’r ddau wn a ddefnyddiodd wrth deithio trwy Orllewin Cumbria yn saethu’n ddireolaeth.

Holi am ffrae

Yn ôl yr heddlu, mae’n bosib na fydd hi’n bosib gwybod fyth beth oedd achos y lladd ond mae’n ymddangos ei fod wedi lladd rhai pobol yr oedd yn eu hadnabod ac eraill ar hap.

Mae’r heddlu’n ystyried a oedd wedi ei danio gan ffrae deuluol tros ewyllys neu ffrae gyda chyd-yrwyr tacsis.

Yn ystod y dydd, fe ddaeth cadarnhad fod gefaill Derrick Bird, David, a chyfreithiwr y teulu, Kevin Commons, ymhlith y rhai a fu farw.

Cyhoeddi enwau

Mae rhagor o enwau’r 12 wedi eu cyhoeddi ond fydd pob un ddim yn cael ei roi’n swyddogol nes bod perthnasau wedi rhoi caniatâd.

Mae ymgyrchwyr yn erbyn gynnau wedi galw am newid y gyfraith a’i gwneud yn fwy anodd i gael trwydded i gadw gwn.

Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, y byddai angen dysgu gwersi a gwneud newidiadau os oedd angen ond fe fyddai’n rhaid cael y ffeithiau i gyd.

Mwy o fanylion am y digwyddiad fan hyn