Fe gafodd pobol ar Faes yr Urdd yn Llanerchaeron dipyn o sioc wrth i S4C orymdeithio praidd o ddefaid o amgylch y maes er mwyn hysbysebu rhaglen newydd.
Teithiodd cyflwynwyr y gyfres – Shân Cothi, John Meredith, Ifan Jones Evans a’r bugail Erwyd Howells – gyda’r defaid drwy’r maes i hyrwyddo rhaglen Y Porthmon.
Bydd y rhaglen yn dilyn Ifan Jones Evans bob dydd wrth iddo ail-fyw taith olaf Dafydd Isaac, un o borthmyn olaf Cymru.
Ei her fydd tywys praidd o ddefaid o Fachynlleth i Aberhonddu gyda help rhai o’r cymunedau y bydd yn teithio drwyddyn nhw ar hyd y daith.
Fe fydd hefyd yn casglu arian tuag elusennau RABI (The Royal Agricultural Benevolent Institution) ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Fe fydd Y Porthmon yn cael ei darlledu’n fyw bob nos o ddydd Sul 27 Mehefin ymlaen.