Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion yn dilyn marwolaeth gwraig wedi gwrthdrawiad rhwng beic modur a char.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar King Street rhwng Glyn Ebwy a Brynmawr, am tua 1pm, heddiw.

Chafodd y ddau ddyn oedd yn y Ford Fiesta gwyrdd ddim o’u hanafu, ond mae’r dyn oedd yn gyrru’r beic modur mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Roedd y wraig a fu farw yn teithio ar y beic modur.

Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru esgeulus.

Mae’r ffordd rhwng Glyn Ebwy a Brynmawr wedi cael ei chau i’r ddau gyfeiriad am y tro.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu Gwent ar y rhif 101, neu ar y rhif 01633 642404.