Roedd gan y dyn a lofruddiodd 12 o bobol yn Cumbria ddoe drwydded ar gyfer y ddau ddryll a ddefnyddiodd yn y gyflafan.
Roedd y gyrrwr tacsi Derrick Bird, 52, wedi cael trwydded i gadw dryll hela yn 1995, a thrwydded ar gyfer reiffl yn 2007.
Mae hynny’n debygol o gael ei feirniadu’n llym gan fod ganddo record droseddol. Cafwyd ef yn yn euog o ddwyn yn yr 90au.
Chwilio am reswm
Mae’r heddlu yn parhau i geisio deall beth a wnaeth i’r dyn “tawel” yma – oedd wedi ysgaru, yn dad i ddau o blant, a newydd ddod yn daid – i wneud yr hyn a wnaeth.
Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau straeon lleol mai ffrae deuluol â’i frawd ynglŷn ag ewyllys, a ffrae â gyrwyr tacsi eraill ynglŷn â dwyn cwsmeriaid, oedd wedi sbarduno’r gyflafan.
Y lladdfa
Y person cyntaf i Derrick Bird ei ladd oedd ei efaill, David, ym mhentref Lamplugh.
Mae’n debyg iddo yna yrru i Frizington – â dryll hela a reiffl .22 – lle y llofruddiodd gyfreithiwr oedd yn gyfaill i’r teulu, Kevin Commons, 60 oed.
Aeth yn ei flaen i dref Whitehaven lle y saethodd at o leiaf dri o yrrwyr tacsi eraill, gan ladd un, Darren Rewcastle.
Gyrrodd yn ei flaen gan saethu pobol ar hap, cyn tarodd ei gar yn erbyn wal a parhau ar droed. Saethodd ei hun ger pentref bach o’r enw Boot.
Rhai o’r enwau eraill
Ymysg y bobol eraill fu farw roedd:
Jamie Clark, gwerthwr tai ifanc; Garry Purdham, oedd yn ffarmwr a chwaraewr rygbi’r gynghrair; Jennifer a James Jackson, cwpwl oedd wedi ymddeol; Isaac Dixon, oedd yn difa tyrchod daear yn rhan amser; Susan Hughes, oedd yn siopa pan gafodd hi ei lladd; Jane Robinson, pensiynwraig di-briod; Kenneth Fishburn, cyn-weithiwr ym mhwerdy niwclear Sellafield; a Michael Pike oedd wedi ymddeol.
Cadarnhawyd heddiw hefyd fod nifer o’r rhai a gafodd eu lladd wedi cael eu saethu yn eu hwynebau.
Llun: blodau yn agos i ble cafodd gyrrwr tacsi ei saethu (Martin Rickett/Gwifren PA)