Bydd streic ddiweddaraf criw caban BA yn dod i ben heddiw, ond fe fydd streic newydd yn dechrau dros y penwythnos.

Mae undeb Unite yn honni bod y gweithredu diwydiannol wedi costio £112 miliwn i’r cwmni ac yn dweud y gallai BA golli £1.4 biliwn wrth i deithwyr symud at gwmnïau eraill.

Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod 14.2% yn llai o deithwyr wedi hedfan gyda BA ym mis Mai 2010 nag yn yr un mis y llynedd – 2.37 miliwn o’i gymharu gyda 2.76 miliwn.

Ers mis Mawrth mae staff BA wedi streicio am 16 diwrnod, ac amcangyfrif Unite yw bod pob diwrnod yn ychwanegu £7 miliwn at gostau BA.

Fe fydd aelodau’r undeb yn streicio am y pumed diwrnod yn olynol heddiw, ac fe fydden nhw’n streicio am bum diwrnod arall o ddydd Sadwrn os nad oes cytundeb.

Ar ôl hynny bydd Unite yn cynnal pleidlais arall am fwy o streicio, meddai nhw, a allai arwain at fwy o boendod i deithwyr drwy gydol yr haf.

Trafodaethau

Daeth trafodaethau rhwng un o arweinwyr Unite, Tony Woodley, a prif weithredwr BA i ben ddydd Mawrth heb unrhyw gynnydd mawr.

Mae’r ddau wedi taro bargen ynglŷn â thorri tâl ac amodau gwaith staff, asgwrn y gynnen yn wreiddiol, ond mae ffrae dros gonsesiynau staff yn atal unrhyw gytundeb nawr.

Mae Unite wedi annog BA i adfer manteision teithio i staff sydd wedi eu colli am streicio ynghynt eleni, gan ddadlau na fyddai’n costio unrhyw arian i’r cwmni.

Mae’r undeb yn mynnu bod ei haelodau yn cefnogi’r streic a’i fod o’n cael effaith anferth ar BA. Dywedodd Unite heddiw fod BA wedi dechrau cynnig i staff weithio ar eu diwrnod oddi ar y gwaith.

Mwy yn torri’r streic, meddai’r cwmni

Ar y llaw arall, mae BA yn honni fod mwy o streicwyr yn dychwelyd i’r gwaith ac y byddan nhw’n gallu hedfan mwy o awyrennau eto’r wythnos nesaf.

Honnodd ail arweinydd Unite, Derek Simpson, yng nghynhadledd yr undeb ym Manceinion ddoe bod prif weithredwr BA, Willie Walsh, yn ceisio “bychanu’r” undeb.

Dywedodd Unite eu bod nhw’n ystyried cynyddu faint mae’r streicwyr yn ei gael bob dydd i £30 ar gyfer y streic pum diwrnod nesaf.