Dyw’r sector cyhoeddus yng Nghymru ddim yn cael y gwerth gorau am arian wrth dalu am gynnal ei dir ac adeiladau.

Dyma y mae adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn honni heddiw, yn dilyn ymchwiliad i 30 corff cyhoeddus. Mae’n dweud fod y broblem yn effeithio ar safon gwasanaethau.

Mae hi’n honni bod nad yw gwaith cynnal a chadw yn aml yn cwrdd â gofynion newydd ac mae’n argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymgynghori â’r cyrff cyhoeddus er mwyn gwella hynny.

Mae cyflwr cyffredinol tir ac adeiladau’r sector cyhoeddus yn wael meddai, ac mae llawer o sefydliadau’n mynd yn groes i ofynion iechyd a diogelwch.

Mae Gillian Body yn dweud fod £500 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar eiddo cyhoeddus sy’n werth tua £12 biliwn.

‘Gwasanaethau gwell’

“Gall rheoli tir ac adeiladau yn effeithiol gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn well, gwella diogelwch y cyhoedd a staff, lleihau costau gweithredu a lleihau eu heffaith amgylcheddol,” meddai Gillian Body.

Roedd y cyrff cyhoeddus a archwiliwyd ar gyfer yr adroddiad yn cynnwys: llywodraeth leol; yr heddlu; y gwasanaeth tân, a chyrff o fewn y llywodraeth ganolog.