Roedd rhannau o’r gerdd a enillodd Gadair yr Urdd eleni wedi ei sgrifennu ar y slei mewn seminarau ym Mhrifysgol Rhydychen.
Fe gyfaddefodd y bardd, Llŷr Gwyn Lewis, o Gaernarfon, ei fod wedi dechrau ar ei awdl i ‘Tonnau’ yn “mewn seminar Geltaidd”, ond fe barhaodd i’w datblygu hi am beth amser wedyn.
Erbyn hyn, mae’n astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ond peth mor gyffredin â rhagolygon y tywydd ar y môr oedd wedi rhoi’r syniad iddo o sgrifennu am stormydd ar y môr.
Roedd yn arbennig o falch oherwydd bod y Gadair wedi ei chreu er cof am yr Archdderwydd, Dic Jones, a fu farw’r llynedd.
Roedd wedi cyfrannu at syniadau ar gyfer cynllun y Gadair, sy’n cynnwys darn o wydr i gynrychioli’r olygfa o ffenest storws, gyda thywysen yn plygu ei phen o barch i lenorion ifanc.
“Rydw i wrth fy modd hefo hi,” meddai Llŷr Gwyn Lewis wrth fwytho’r gadair. ““Mae’n fraint aruthrol i gael y nghysidro’n deilwng ohoni.”
Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd oedd yn beirniadu gan ddweud fod gan Llŷr Gwyn Lewis “weledigaeth a dawn” a bod ei awdl yn “yn unigryw a thrawiadol” ac yntau’n fardd “cyffrous a soffistigedig”.
Diddordeb yn ifanc
Fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cynganeddu’n ifanc wrth iddo “chwarae gyda geiriau”. Ond mae o wedi bod yn cynganeddu gyhyd ei fod o bellach yn “gweld barddoni’n rhydd yn anodd!”
Er ei fod yn hoff o ddarllen gwaith Dic Jones, ei unig gysylltiad gydag ef oedd mewn Talwrn.
“Dw i’n cofio nad doedd Gerallt Lloyd Owen cweit wedi deall yng ngherdd i a dyma Dic Jones yn gweiddi allan o’r gynulleidfa i geisio cael Gerallt i’w deall,” meddai.
“Roeddwn i’n nerfus bore yma ond ar ôl clywed y feirniadaeth ges i ymlacio dipyn cyn i mi godi ar fy nhraed,” meddai Llŷr Gwyn Lewis.
Gruffydd Antur o Ysgol Uwchradd y Berwyn Y Bala a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Gruffudd Owen o Gaerdydd a Dewi Huw Owen o Fangor yn rhannu’r drydedd wobr.