Ei haelwyd Saesneg ei hun oedd yr ysbrydoliaeth i’r wraig sydd wedi ennill gwobr fawr am waith gyda phobol ifanc.

Yn 1976, fe aeth Jennifer Maloney o Landybïe ati i sefydlu Adran yr Urdd yn ei phentref er mwyn gwneud yn siŵr bod ei phlant hi a phlant eraill yr ardal yn cael cymdeithasu trwy’r Gymraeg.

Saesneg oedd iaith ei chartref bryd hynny ac, erbyn hyn, mae’n gweld rhagor o rieni Saesneg yn awyddus i yrru eu plant i ysgolion Cymraeg.

Fe enillodd Dlws John a Ceridwen Hughes ar ôl cael ei henwebu gan yr aelodau a’r rhieni yn Adran Penrhyd a gan Gyngor Tref Rhydaman am ei “llafur diflino” ers 34 o flynyddoedd.

Rhydaman heddiw

“Ar hyn o bryd, mae’r Gymraeg yn eithaf cryf yn Rhydaman,” meddai Jennifer Maloney.

“Mae’r ysgolion Cymraeg yn llawn ac mae rhieni Saesneg eisiau hala eu plant i ysgolion Cymraeg,” meddai, cyn ychwanegu bod “mudiadau iaith” ac “mentrau” wedi helpu i gadw’r iaith yn fyw yno.

Roedd hithau’n “ceisio cadw diddordeb y plant gyda phethe fel dawnsio gwerin, caneuon actol a chorau”.