Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Mae gan Bortiwgal un o chwaraewyr gorau’r byd yn Ronaldo, ond dyw’r tîm heb chwarae’n cystal yn ddiweddar. A fydden nhw’n dianc o grŵp anoddaf y gystadleuaeth, sydd hefyd yn cynnwys Brasil a’r Traeth Ifori?
Y Wlad
Poblogaeth: 10 miliwn
Prif iaith: Portiwgaleg
Prifddinas: Lisbon
Arweinydd: yr Arlywydd Aníbal Cavaco Silva
Llysenw: Selecção das Quinas (tîm y pump)
Yr Hyfforddwr
Carlos Queiroz:
Penodwyd y cyn-ddirprwy i Alex Ferguson yn Manchester United yn rheolwr dros ei wlad yn 2008, yn olynydd i Scolari, pan ddaeth yntau’n rheolwr Chelsea. Yn wybodus iawn am dactegau ar y lefel uchaf, a chyda’r modd i alw ar rai o bêl-droedwyr gorau’r byd, roedd yn syndod gweld Queiroz yn cael trafferth i arwain Portiwgal i rowndiau terfynol 2010.
Y Daith
Siomedig oedd perfformiadau Portiwgal yn Grwp 1, ond llwyddwyd i ennill y tair gêm olaf i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle. Enillwyd y ddau gymal yn erbyn Bosnia a Herzegovina o’r un sgôr, 1-0.
Y Record
Ymddangosodd Portiwgal am y tro cyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1966 gyda thîm a oedd yn seiliedig ar un o glybiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, Benfica. O ganlyniad i goliau Eusebio, llwyddwyd i gyrraedd y rownd gynderfynol cyn colli i Loegr. Wedi hynny methwyd â chyrraedd y rowndiau terfynol tan 1986 ond ni chrëwyd argraff ar y gystadleuaeth honno na thrachefn yn 2002. Serch hynny yn 2006 roedd darogan y gallai Portiwgal gipio’r Gwpan, ond wedi curo Lloegr yn y rownd gogynderfynol, collwyd yn erbyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol gydag unig gôl y gêm yn dod o gic o’r smotyn.
Sêr o’r Gorffennol
Eusebio:
Sgoriodd y blaenwr cryf a sgilgar, a aned yn Mosambic, 41 gôl dros Portiwgal a 317 dros ei glwb, Benfica, rhwng 1960 a 1975. Sgoriodd naw gôl, llawer ohonynt yn rhai cofiadwy, yng Nghwpan y Byd 1966.
Luís Figo:
Chwaraeodd yr asgellwr twyllodrus 127 o weithiau dros ei wlad rhwng 1991 a 2006 a serennu hefyd dros glybiau Barcelona a Real Madrid. Yn aelod o ‘genhedlaeth euraidd’ Portiwgal, ef oedd capten y tîm a lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2006.
Rui Costa:
Chwaraeodd y chwaraewr canol cae talentog 94 o weithiau dros Portiwgal rhwng 1993 a 2004 gan sgorio 26 gôl. Roedd yn aelod o’r tîm a ddaeth mor agos i ennill Pencampwriaeth Ewrop yn 2004, gan sgorio goliau yn erbyn Rwsia a Lloegr.
Gwyliwch Rhain
Raul Meireles:
Sgoriodd chwaraewr canol cae Porto y gôl hollbwysig yn erbyn Bosnia a Hergezovina a sicrhaodd lle Portiwgal yn y rowndiau terfynol. Yn dilyn traddodiad anrhydeddus pêl-droedwyr Portiwgal, mae’n feistr ar y bas hir a gall sgorio gydag ergydion o bell.
Ricardo Carvalho:
Bu amddiffynnwr profiadol Chelsea yn aelod o dîm ei wlad ers 2003 gan chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2004 ac yn rownd gogynderfynol Cwpan y Byd 2006. Mae hefyd wedi chwarae ddwywaith yn rowndiau terfynol Cwpan Ewrop – yn fuddugoliaethus gyda Porto yn 2004 ond yn aflwyddiannus yn 2008 gyda Chelsea.
Y Seren
Ronaldo yw un o’r pêl-droedwyr mwyaf cyffrous i ymddangos erioed ar gaeau pêl-droed y byd. Gall droi gêm gydag un rhediad neu ergyd. Enillodd fedalau di-rif gyda Manchester United cyn symud i Real Madrid am £80 miliwn yn haf 2009. Etholwyd ef hefyd yn chwaraewr gorau’r byd yn 2008. Caiff ei farcio’n dynn yn Ne Affrica ond bydd yn gobeithio ychwanegu at y 22 gôl ryngwladol a sgoriodd hyd yn hyn.