Mae disgwyl i fowliwr cyflym newydd Morgannwg, Shaun Tait, chwarae ei gêm gyntaf i’r clwb, wrth i’r Dreigiau baratoi wynebu Gloucestershire yn y gystadleuaeth 20 pelawd.
Bydd Morgannwg yn croesawu’r tîm o Gaerloyw i Stadiwm Swalec nos Wener ar gyfer y gêm yn y Friends Provident T20.
Y mis diwetha’, fe fowliodd Tait un o’r peli cyflymaf yng Nghwpan y Byd 20 pelawd yn India’r Gorllewin gyda chyflymder o 93.7mya.
Mae chwaraewr rhyngwladol Awstralia hefyd wedi bowlio pêl cyflymaf erioed yn Awstralia dros y gaeaf gyda chyflymder o 99.86mya.
Fe ddychwelodd Shaun Tait i chwarae yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl cymryd hoe o’r gêm oherwydd blinder meddyliol a chorfforol yn 2008.
Mae wedi chwarae 22 gêm ryngwladol undydd yn ogystal â thair gêm brawf i Awstralia.
Ymestyn mantais
Bydd Morgannwg yn gobeithio cynnal ei dechrau addawol y tymor hwn, a nhwthau eisoes ar frig Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Mae’r Dreigiau wedi ymestyn eu mantais ar frig yr adran er mai gêm gyfartal a gawson nhw’n erbyn Surrey.
Bu rhaid i’r gêm gael ei gohirio yn dilyn glaw trwm trwy gydol diwrnod olaf y gêm yng Nghaerdydd.