Abertawe yw’r cyngor diweddaraf i ddiffodd y goleuadau stryd er mwyn arbed arian.
Mae’r awdurdod yn gobeithio arbed tua £100,000 y flwyddyn drwy ddiffodd tua 1,500 o 27,000 o oleuadau stryd y ddinas.
Byddant yn cael eu diffodd yn ystod mis Mehefin, ac mae’r cyngor yn pwysleisio na’ fydd ardaloedd preswyl yn cael eu heffeithio.
Goleuadau modern
Bydd y cyngor hefyd yn cyfnewid tua 1,000 o hen oleuadau am rai newydd, sy’n defnyddio llai o ynni.
Yn ogystal, bydd goleuadau mewn rhai ardaloedd yn cael eu troi i ffwrdd am 8pm yn hytrach nag o ganol nos.
“Ein prif nod yw lleihau’r ynni a ddefnyddir i oleuo’r strydoedd yn Abertawe,” meddai Carl Humphrey, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Abertawe.
“Rydym wedi ystyried yn ofalus iawn ble gallwn ddiffodd nifer bach o oleuadau stryd yn y ddinas heb achosi problemau i drigolion.
“Mae diogelwch y cyhoedd yn bwysig a hoffem dawelu meddyliau trigolion nad ydym yn bwriadu diffodd goleuadau mewn ardaloedd preswyl.
“Mae rhai cynghorau lleol wedi diffodd canran llawer uwch o’u goleuadau stryd. Byddwn yn diffodd canran bach mewn ardaloedd dibreswyl yn unig.”