Mae’r Crusaders wedi arwyddo Jamie Murphy oddi wrth Scorpions De Cymru ar gytundeb 18 mis.

Ac, yn ôl un o’i hyfforddwyr, ef yw un o’r chwaraewyr gorau y tu allan i’r adran ucha’.

Mae Murphy, sy’n gallu chwarae yn gefnwr neu ar yr asgell, wedi cael tymor addawol iawn gyda’r Scorpions gyda dau gais a thri throsiad mewn naw gêm.

Fe ddechreuodd Murphy ei yrfa gyda Theirw Glas Pen-y-bont ac mae wedi chwarae i ail dîm Cymru.

“R’yn ni wedi bod yn monitro ei berfformiadau ers rhai wythnosau bellach. Mae’n haeddu cyfle i chwarae yn y Super League ac r’yn ni’n siŵr y bydd yn ei helpu i ddatblygu fel chwaraewr,” meddai hyfforddwr cynorthwyol y Crusaders, Iestyn Harris.

‘Cyfle gwych’

Mae hyfforddwr Scorpions De Cymru, Anthony Seibold yn credu mai Jamie Murphy yw’r chwaraewr gorau ym Mhencampwriaeth Un y tymor hwn.

“Mae’n gyfle gwych i Jamie arwyddo gyda’r Crusaders a chael ei hyfforddi gan Brian Noble ac Iestyn Harris,” meddai Seibold.

“Mae ganddo botensial enfawr ac rwy’n credu ei fod yn chwaraewr fydd yn gallu chwarae yn y Super League yn y dyfodol agos.”