Mae’r Cymro Rhys Davies yn gobeithio cymryd cam arall tuag at sicrhau ei le yn nhîm Ewropeaidd Cwpan Ryder trwy lwyddo ym Mhencampwriaeth Agored Cymru sydd wedi dechrau yn y Celtic Manor heddiw.

Erbyn tri y prynhawn roedd wedi cael dechrau eitha’, un ergyd yn well na’r safon ar ôl saith twll. Ond mae Bradley Dredge wedi gnweud yn well fyth, bump yn well na’r safon ar ôl gorffen ei rownd.

Mae’r golffiwr o Ben-y-bont yn cael ei grybwyll ymysg yr enwau i herio’r Unol Daleithiau ar yr un cwrs yn y Cwpan Ryder ym mis Hydref eleni.

Bydd Rhys Davies yn un o 12 Cymry sy’n cystadlu yng Nghasnewydd yn ystod y pedwar diwrnod nesaf.

Does yr un Cymro erioed wedi ennill y gystadleuaeth ond pe bai Davies yn cipio’r bencampwriaeth fe fyddai’n codi i’r seithfed safle ar y rhestr pwyntiau ar gyfer y Cwpan Ryder.

Hwb gan Monty

Mae capten tîm Ewropeaidd Cwpan Ryder, Colin Montgomerie wedi dweud ei fod yn ddigon parod i ddewis chwaraewyr dibrofiad – fel Davies – yn ei dîm i wynebu’r Unol Daleithiau yng Nghasnewydd ym mis Hydref.

“Rwy’n credu bod y chwaraewyr dibrofiad sy’n chwarae yn y prif gystadlaethau erbyn hyn yn llawer gwell na’r hyn oedden nhw yn y gorffennol,” meddai Colin Montgomerie.

“Pan chwaraeais i gyntaf yn y Cwpan Ryder yn 1991, doeddwn ni ddim wedi chwarae yn un o’r prif gystadlaethau’r Unol Daleithiau.

“Adeg hynny dim ond y cystadlaethau rhagbrofol oedd ar gael, felly doedd gen i ddim o’r profiad sydd gan nifer o’r chwaraewyr heddiw.”