Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi bod pedwar chwaraewr wedi cael eu rhyddhau o’r rhanbarth dros yr haf.

Maen nhw wedi penderfynu na fydd angen Ross Davies, Ed Shervington, Liam a Jonny Vaughton ar gyfer tymor nesaf.

Pwy yw’r pedwar?

Y mwyaf profiadol o’r chwaraewyr yw’r asgellwr, Vaughton. Mae’n 28 oed ac wedi chwarae 63 gêm i’r Gweilch gan sgorio 11 cais ers ymuno oddi wrth y Gleision yn 2005.

Fe ddaeth Ed Shervington trwy system ieuenctid y rhanbarth ac mae’r prop wedi ymddangos 38 o weithiau dros y Gweilch, gan gynnwys dod oddi ar y fainc yn rownd derfynol Cynghrair Magners y penwythnos diwethaf.

Mae’r mewnwr, Liam Davies a’r prop Ross Davies yn gadael y rhanbarth ar ôl dim ond blwyddyn.

Fe arwyddodd y mewnwr o glwb Ffrengig Brive gan chwarae pedair gwaith yn gynharach yn y tymor cyn arwyddo gyda Chymry Llundain ar fenthyg.

Chwaraeodd y prop pen tyn dwywaith i’r Gweilch ers arwyddo o Sale, ond fe ddaeth ei dymor i ben yn gynnar ar ôl iddo dorri ei goes.