Ar ôl i’r Eisteddfod ddod i ben yn Llanerchaeron fe fydd y Plasty yn paratoi at lwyfannu drama sy’n trafod y berthynas ddadleuol rhwng meistri a’r gweision.

Mae Ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nyffryn Aeron yn un o’r lleoliadau ar gyfer drama ddwyieithog sy’n portreadu’r agwedd tuag at ddosbarth ym Mhlastai’r 19g.

Fe fydd y ddrama o Sweden, Miss Julie, yn cael ei pherfformio yng Nghastell Penrhyn, Bangor, Llanerchaeron ac yn Nhŷ Newton, Parc Dinefwr Llandeilo.

“Dyna le’r oedd yr Upstairs Downstairs go iawn yn digwydd,” meddai Robert Bowman, cyfarwyddwr y cwmni Lluniau Byw, “felly bydd perfformio ar leoliad yn ychwanegu rhywbeth hollol wahanol at ysbryd y cynhyrchiad mae’n siŵr.”

Strwythur cymdeithas

Er nad oes cysylltiad amlwg rhwng Sweden yn 1874 a Chymru 2010, daw’r ddwy wlad a’r ddau gyfnod at ei gilydd mewn modd grymus iawn yn y cynhyrchiad.

Mae Miss Julie gan Strindberg yn cael ei hystyried yn un o’r clasuron Ewropeaidd.

“Roeddwn yn meddwl y byddai’r ddrama yn gweddu’n dda i Gymru,” meddai Robert Bowman, a sefydlydd cwmni Lluniau Byw gyda’i wraig Elen.

“Mae’r ddrama wreiddiol yn ymwneud â strwythur confensiynau amrywiol ar gymdeithas a sut mae pethau’n chwalu os ydy’r strwythur yn cael ei newidio mewn unrhyw ffordd wrth i bobol geisio byw y tu allan i’w strwythur naturiol.

“Strwythur dosbarth oedd gan Strindberg yn ei feddwl yn fwy na dim, ond daw’r cyfan yn fyw i Gymru heddi’ wrth ddod â’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg i mewn i’r stori.

“Dyna le mae’r perthnasedd heddi’, yn fwy nag yn y sylwadau ynglŷn â dosbarth, er wrth gwrs mae’r holl system o’r meistri yn y Tŷ Mawr a’r gweithwyr yn y tai teras yn rhywbeth sydd yn ein cof byw o hyd hefyd.”

* Miss Julie ar daith drwy Fehefin gan ddechrau yn Theatr Halliwell Caerfyrddin, Mehefin 9 ac yn Llanerchaeron, Mehefin 21

Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 3